Date
2 December, 2023
Digwyddiadau’r Gaeaf Caerffili 2023
icon

Marchnad Nadolig Caerffili 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro o gael cyhoeddi y bydd yn cynnal cyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf ym mhedwar canol tref yn y Fwrdeistref Sirol y Nadolig hwn – sef Bargod, Caerffili, Coed Duon, ac Ystrad Mynach. Bydd stondinau crefft a bwyd blasus, reidiau ffair i blant ac adloniant i’r teulu ar gael ym mhob marchnad.

Digwyddiad Dyddiad ac Amser Lleoliad
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd

9am-5pm

Heold Bedwlwyn a Stryd Oakfield, canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AA
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon

Dydd Sadwrn 25 Tachwedd

9am-5pm

Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr

9am-7pm (Ffair Bwyd a Chrefft)

5:30pm-7pm (Gorymdaith Lusernau ac Arddangosfa Tân Gwyllt)

Canol tref Caerffili, CF83 1JL
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni NEWYDD

Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr

9am-6pm (Ffair Bwyd a Chrefft)

5pm-6pm (Gorymdaith Lusernau)

Canol tref Bargod, CF81 8QT

Os hoffech chi fasnachu yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau hyn, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk a gofyn am ffurflen gais.

Bydd Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2023.

Pryd?

Mae Marchnad Nadolig Caerffili yn ddigwyddiad AM DDIM. (Mae costau mynediad ar gyfer y Castell.)

Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr, 9am–7pm

Beth?

A hithau'n cael ei chynnal yn hen dref farchnad Caerffili – sydd hefyd â chastell enwog – mae'r farchnad draddodiadol hon yn cynnwys theatr stryd a thros 100 o stondinau bwyd, crefftau a rhoddion.

Ble?

Mae Caerffili tua 10 milltir o Gaerdydd, yn agos i draffordd M4. Bydd yr holl firi yn y dref ac yng Nghastell Caerffili.

Ffôn: 029 2088 0011

E-bost: digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Parcio ar gyfer Marchnad Nadolig Caerffili

Cyfarwyddiadau
Dewch oddi ar draffordd M4 wrth Gyffordd 32, ewch ar hyd A470 ac A468 a dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad Caerffili.

 

Find Out More
title banner
Adloniant
Bydd rhaglen adloniant lawn ar gael yn fuan.
Stondinau bwyd a chrefftau
Bydd dros 100 o stondinau yn gwerthu danteithion Nadoligaidd, felly, dyma'r lle perffaith i ddod o hyd i'r rhoddion arbennig hynny – gemwaith, crefftau, addurniadau Nadolig, ategolion, gwin, gin, a dewis eang o gynnyrch bwyd. I ategu'r Farchnad Nadolig, bydd y Farchnad Ffermwyr fisol yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn a Ffair Grefftau Cwrt y Castell hefyd ar agor ar y penwythnos.
Coetsys a grwpiau
Mae Marchnad Nadolig Caerffili yn lle gwych ar gyfer teithiau undydd neu wyliau byr i grwpiau; mae lleoedd parcio bysiau ar gael yn agos at safle'r digwyddiad. Bydd coetsys sy'n archebu ymlaen llaw yn cael manteisio ar leoedd parcio neilltuedig. Bydd gyrwyr coetsys yn cael bag o roddion bach a thaleb fwyd i'w defnyddio yn y Farchnad. I lenwi ffurflen archebu, cliciwch ar y ddolen isod.
Find Out More
vc_logo
Atyniadau, llety, a mannau bwyta yn yr ardal
Cyfle cyffrous i noddi Marchnad Nadolig Caerffili!

Mae pecynnau noddi ar gael sy'n gweddu i fusnesau o bob math a maint. Cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Fusnes ar digwyddiadau@caerffili.gov.uk Anfonwch neges e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk a bydd un o'r Swyddogion Digwyddiadau yn cysylltu â chi.

Arddangos ym Marchnad Nadolig Caerffili

Os hoffech chi wneud cais am stondin ym Marchnad Nadolig Caerffili, cliciwch ar y ddolen isod – mae'n arwain i dudalen sy'n cynnwys ffurflenni cais i fasnachwyr ar gyfer ein holl ddigwyddiadau.

Find Out More
icon email
Stay up to date

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili, cofrestrwch ar gyfer ein e-fwletinau:

News
Pleidleisiwyd Marchnad Nadolig Caerffili yn drydedd Farchnad Nadolig orau i'w hymweld â hi yn y Deyrnas Unedig gan gylchgrawn ‘Countryfile’ y BBC!
 
Be Social
@facebook 
@twitter      
@instagram
Cefnogir Marchnad Nadolig Caerffili gan
Sponsor Image Sponsor Image Sponsor Image Sponsor Image Sponsor Image