
Ewch i’r tudalen NEWYDD SBON “Dathlu’r Nadolig yng Nghaerffili” ar wefan Croeso Caerffili, ble gallwch chi ddod o hyd i bopeth am yr hyn sy’n digwydd a beth sydd ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod y tymor Nadoligaidd!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro o gael cyhoeddi y bydd yn cynnal cyfres o Ffeirau y Gaeaf ym mhedwar canol tref yn y Fwrdeistref Sirol y Nadolig hwn – sef Bargod, Caerffili, Coed Duon, ac Ystrad Mynach. Bydd stondinau crefft a bwyd blasus, reidiau ffair i blant ac adloniant i’r teulu ar gael ym mhob marchnad.
Digwyddiad | Dyddiad ac Amser | Lleoliad |
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni |
Dydd Sadwrn 8 Tachwedd Dydd Sul 9 Tachwedd Dydd Sadwrn 15 Tachwedd Dydd Sul 16 Tachwedd 10am – 5pm |
Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili, CF83 1JL |
Marchnad Nadolig Ystrad Mynach |
Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 9am – 5pm |
Canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AA |
Ffair Nadolig Fach (sy’n cynnwys Cynnau Goleuadau Nadolig Caerffili, Gorymdaith Llusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt) |
Dydd Gwener 21 Tachwedd 5pm – 7pm |
Canol tref Caerffili, CF83 1JL |
Marchnad Nadolig Coed Duon |
Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 9am – 5pm |
Canol tref Coed Duon, NP12 1AH |
Marchnad Nadolig Caerffili |
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 9am – 5pm |
Canol tref Caerffili, CF83 1JL |
Marchnad Nadolig Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Gerddoriaeth a Goleuni |
Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 9am – 6pm |
Canol tref Bargod, CF81 8QT |
Os hoffech chi fasnachu yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau hyn, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk a gofyn am ffurflen gais.
Mae rhagor o wybodaeth am Ffeiriau Gaeaf eleni i’w gweld isod, yn ogystal ag ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Ymweld â Chaerffili, a thudalen Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Marchnad Nadolig Caerffili yn ddigwyddiad AM DDIM. (Mae costau mynediad ar gyfer y Castell.)
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd, 9am–6pm
A hithau'n cael ei chynnal yn hen dref farchnad Caerffili – sydd hefyd â chastell enwog – mae'r farchnad draddodiadol hon yn cynnwys theatr stryd a thros 100 o stondinau bwyd, crefftau a rhoddion.
Mae Caerffili tua 10 milltir o Gaerdydd, yn agos i draffordd M4. Bydd yr holl firi yn y dref ac yng Nghastell Caerffili.
Ffôn: 01443 866390
E-bost: digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Cyfarwyddiadau
Dewch oddi ar draffordd M4 wrth Gyffordd 32, ewch ar hyd A470 ac A468 a dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad Caerffili.



Mae pecynnau noddi ar gael sy'n gweddu i fusnesau o bob math a maint. Cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Fusnes ar digwyddiadau@caerffili.gov.uk Anfonwch neges e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk a bydd un o'r Swyddogion Digwyddiadau yn cysylltu â chi.
Os hoffech chi wneud cais am stondin ym Marchnad Nadolig Caerffili, cliciwch ar y ddolen isod – mae'n arwain i dudalen sy'n cynnwys ffurflenni cais i fasnachwyr ar gyfer ein holl ddigwyddiadau.
Find Out MoreI gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili, cofrestrwch ar gyfer ein e-fwletinau:




