
Marchnad Nadolig Caerffili 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro o gael cyhoeddi y bydd yn cynnal cyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf ym mhedwar canol tref yn y Fwrdeistref Sirol y Nadolig hwn – sef Bargod, Caerffili, Coed Duon, ac Ystrad Mynach. Bydd stondinau crefft a bwyd blasus, reidiau ffair i blant ac adloniant i’r teulu ar gael ym mhob marchnad.
Digwyddiad | Dyddiad ac Amser | Lleoliad |
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach |
Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 9am-5pm |
Heold Bedwlwyn a Stryd Oakfield, canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AA |
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon |
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 9am-5pm |
Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH |
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt |
Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 9am-7pm (Ffair Bwyd a Chrefft) 5:30pm-7pm (Gorymdaith Lusernau ac Arddangosfa Tân Gwyllt) |
Canol tref Caerffili, CF83 1JL |
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni NEWYDD |
Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 9am-6pm (Ffair Bwyd a Chrefft) 5pm-6pm (Gorymdaith Lusernau) |
Canol tref Bargod, CF81 8QT |
Os hoffech chi fasnachu yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau hyn, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk a gofyn am ffurflen gais.
Bydd Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2023.
Mae Marchnad Nadolig Caerffili yn ddigwyddiad AM DDIM. (Mae costau mynediad ar gyfer y Castell.)
Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr, 9am–7pm
A hithau'n cael ei chynnal yn hen dref farchnad Caerffili – sydd hefyd â chastell enwog – mae'r farchnad draddodiadol hon yn cynnwys theatr stryd a thros 100 o stondinau bwyd, crefftau a rhoddion.
Mae Caerffili tua 10 milltir o Gaerdydd, yn agos i draffordd M4. Bydd yr holl firi yn y dref ac yng Nghastell Caerffili.
Ffôn: 029 2088 0011
E-bost: digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Cyfarwyddiadau
Dewch oddi ar draffordd M4 wrth Gyffordd 32, ewch ar hyd A470 ac A468 a dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad Caerffili.



Mae pecynnau noddi ar gael sy'n gweddu i fusnesau o bob math a maint. Cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Fusnes ar digwyddiadau@caerffili.gov.uk Anfonwch neges e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk a bydd un o'r Swyddogion Digwyddiadau yn cysylltu â chi.
Os hoffech chi wneud cais am stondin ym Marchnad Nadolig Caerffili, cliciwch ar y ddolen isod – mae'n arwain i dudalen sy'n cynnwys ffurflenni cais i fasnachwyr ar gyfer ein holl ddigwyddiadau.
Find Out MoreI gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili, cofrestrwch ar gyfer ein e-fwletinau:




